Malcolm Thomas MBE
      • Malcolm Thomas MBE
      • Rheolwr Cleientiaid Gwledig
    • Contact

      • 07837 109 599
      • View vcard
    • Department

    • Address

        • 07837 109 599

    Malcolm Thomas MBE

    Rheolwr Cleientiaid Gwledig

    Caeth Malcolm ei anrhydeddu yn ddiweddar gydag MBE fel cydnabyddiaeth o’i wasanaeth i ddiwydiant amaethyddol Cymru, ac hefyd fe’i wnaed yn Aelod Cyswllt o Gymdeithasau Amaethyddol Brenhinol yn 2015.

    Bu Malcolm gynt yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Busnes, Aelodaeth a Rhanbarthau’r NFU yng Nghymru a Lloegr; yn Bennaeth Polisi ac Adnoddau/Dirprwy Gyfarwyddwr NFU Cymru; a Phennaeth Cyfadran Amaethyddol a Pholisi Nwyddau Ewropeaidd yn y Swyddfa Gymreig.

    Mae Malcolm hefyd yn Aelod am Oes o’r Clwb Ffermwyr Ifanc, ac wedi cynrychioli’r NFU ar sawl Pwyllgor Dethol yn y Tŷ Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi.

    Rôl Malcolm yn bennaf yw rheoli a datblygu ein sylfaen o gleientiaid gwledig, gan gynnwys bod yn gyswllt gyda’r NFU a Chynllun Cymorth Cyfreithiol yr NFU, gan mai JCP yw cwmni panel y cynllun dros Dde Cymru.

    Wedi gweithio yn y sector dros sawl blwyddyn, mae gan Malcolm wybodaeth bersonol o’r heriau mae’r sector yn ei wynebu.

    Mae Malcolm hefyd yn Ddirprwy Gadeirydd RABI (Royal Agricultural Benevolent Institution).