- Abertawe 01792 773 773
- Caerdydd 029 2022 5472
- Caerfyrddin 01267 234 022
- Abergwaun 1348 873 671
- Hwlffordd 01437 764 723
- Practis Gwledig 01267 266 944
- Tyddewi 01348 873 671
- Nodwch fod pob galwad ffôn yn cael ei recordio
Ceri Noble
Ymunodd Ceri â JCP fel Cyfreithiwr dan Hyfforddiant ym mis Medi 2018, ar ôl graddio o Brifysgol Abertawe a chwblhau’r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol gyda Phrifysgol y Gyfraith ym Mryste.
Mae Ceri wedi cyflawni swyddogaethau o fewn y tîm Gwledig a'r tîm Cynllunio Gydol Oes ac mae hi bellach yn prysur ennill ei phlwy fel Cyfreithiwr cymwysedig yn y tîm Anafiadau Personol, ble mae hi wedi treulio 12 mis olaf ei chontract hyfforddi.
Mae Ceri yn rhugl yn y Gymraeg gan iddi gael ei magu mewn cymuned amaethyddol Gymraeg ei hiaith yn y gogledd. Mae hi hefyd wedi cyflawni’r Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn rhan o'i hastudiaethau israddedig.
Mae Ceri wedi bod yn aelod o bwyllgor Is-adran Cyfreithwyr Iau Abertawe am y flwyddyn ddiwethaf ac ar hyn o bryd mae hi’n un o'r ysgrifenyddion corfforaethol ac wedi helpu i drefnu amrywiaeth o weithdai corfforaethol drwy gydol y flwyddyn, megis y gweithdy Eiriolaeth, digwyddiad blynyddol sy’n rhoi cyfle i weithwyr cyfreithiol proffesiynol ifanc a myfyrwyr ei fynychu i ymarfer a gwella eu sgiliau eiriolaeth.
Cyn dechrau fel Cyfreithiwr dan Hyfforddiant, treuliodd Ceri amser yn gyntaf gyda Chyfreithwyr JCP yn rhan o'i phrofiad gwaith yn ystod blwyddyn olaf ei gradd. Treuliodd amser i ddechrau gyda'r tîm Gwledig cyn symud ymlaen i'r tîm Cymorth Busnes, ble y cyflawnodd hi amrywiaeth o dasgau gan gynnwys gwaith cronfa ddata.
Yn 2020, dilynodd Ceri hyfforddiant i ddod yn Gyfaill Dementia. Mae Cyfaill Dementia yn dysgu mwy ynghylch y profiad o fyw gyda dementia ac yna’n defnyddio’r wybodaeth honno ar gyfer gweithredu.
Pan nad yw yn y swyddfa, mae Ceri'n mwynhau beicio ac mae hi wedi cymryd rhan yn her Is-adran Cyfreithwyr Iau Abertawe 200042000 ym mis Gorffennaf 2020 i godi arian at Elusen Mind. Mae hi hefyd yn chwaraewr rygbi brwd ac yn chwarae i dîm menywod West Swansea Hawks ar hyn o bryd. Mae gan Ceri ddiddordeb mewn cerddoriaeth hefyd ac mae'n chwarae'r soddgrwth yn ogystal â’r gitâr mewn band 5-darn sydd wedi'i leoli yma yn Abertawe.