- Abertawe 01792 773 773
- Caerdydd 029 2022 5472
- Caerfyrddin 01267 234 022
- Abergwaun 1348 873 671
- Hwlffordd 01437 764 723
- Practis Gwledig 01267 266 944
- Tyddewi 01348 873 671
- Nodwch fod pob galwad ffôn yn cael ei recordio
Bethan Robart
Cyfreithiwr Cyswllt yw Bethan yn nhîm y Llys Gwarchod yn Abertawe. Mae Bethan yn defnyddio dull tosturiol o ddeall heriau bywyd ar ôl anaf. Mae Bethan wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth prydlon a chyfeillgar i’n cleientiaid a’u teuluoedd. Mae Bethan yn siarad Cymraeg yn rhugl.
Ymunodd Bethan â thîm JCP yn gyntaf yn 2017 fel rhan o’n cynllun lleoliad gwaith gyda Phrifysgol Abertawe. Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu’n gweithio fel Cynorthwy-ydd Cyfreithiol yn y Gwasanaethau Anafiadau. Yna cynigiwyd swydd i Bethan yn ein tîm Dirprwy Cyfreithiol a pharhaodd i weithio wrth gwblhau y flwyddyn olaf o’i gradd yn y Gyfraith. Ar ôl cwblhau ei hastudiaethau, dechreuodd Bethan ei Chontract Hyfforddi ym mis Mawrth 2021.
Graddiodd o Brifysgol Abertawe gyda Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn y Gyfraith yn 2019. Yna, parhaodd â’i hastudiaethau drwy gwblhau’r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol a Meistr y Gyfraith, gan ennill Rhagoriaeth yn y ddau gymhwyster. Trwy ddefnyddio’i phrofiad yn y tîm Dirprwy Cyfreithiol, canolbwyntiodd traethawd hir Bethan ar rôl y Llys Gwarchod wrth benodi dirprwyon lleyg a phroffesiynol.
Yn 2021, etholwyd Bethan yn Is-lywydd Is-adran Cyfreithwyr Iau Abertawe a’r Cylch. Mae ei rôl yn cynnwys mynd i gyfarfodydd cenedlaethol i drafod materion polisi fel amrywiaeth, cynhwysiant a hygyrchedd ym mhroffesiwn y gyfraith. Mae Bethan hefyd yn cymryd rhan mewn ymchwil sy’n ymwneud ag addysg a thechnoleg y gyfraith. Mae Bethan yn cymryd rhan mewn trefnu nifer o ddigwyddiadau codi arian at elusennau a digwyddiadau datblygu gyrfa ar gyfer darpar gyfreithwyr.
Y tu allan i’r gwaith, mae Bethan yn mwynhau cerdded arfordir Cymru a threulio amser gyda’i theulu a ffrindiau.