Archwiliad Iechyd Ffermio Am Ddim Gyda'r NFU

Cynllun buddion yn ôl disgresiwn mewnol yw Cynllun Cymorth Cyfreithiol yr NFU a ddarperir gan banel o Gyfreithwyr, a Chyfreithwyr JCP sy’n cynrychioli Canolbarth a De Cymru.

Mae’n rhoi cyfarwyddyd proffesiynol a chymorth ariannol ar gyfer costau cyfreithiol a chostau eraill i Ffermwyr a Thyfwyr sy’n Aelodau, pe byddech yn wynebu anghydfod cyfreithiol yn ymwneud â’ch busnes ffermio neu dyfu.

Yn ogystal â chael gostyngiad o 12.5%  ar ffioedd cyfreithiol ar gyfer gwasanaethau penodol, hyd at fis Hydref 2020, gall Aelodau cymwys o’r NFU gael y cyfraniadau canlynol hefyd:-

  • Dau gyfraniad o £250 tuag at waith yn deillio o’r archwiliad iechyd cyfreithiol yn gysylltiedig â’ch busnes ffermio neu dyfu.
  • Pedwar cyfraniad o £250 tuag at unrhyw wasanaeth gwirio neu ddrafftio contract cyfreithiol sy’n gysylltiedig â’ch busnes ffermio neu dyfu.

Cam Un

Byddwn yn cysylltu â chi i drefnu archwiliad iechyd dros y ffôn neu wyneb yn wyneb o’ch buddion cyfreithiol.

Bydd hyn yn rhad ac am ddim a chaiff ei gynnal mewn lleoliad ac ar adeg sy’n gyfleus i chi, ac os yw hynny’n briodol, eich teulu/partneriaid busnes.

Cam Dau

Byddwn yn gwneud argymhellion os byddwn yn teimlo eich bod angen cymorth cyfreithiol ychwanegol. Byddwn yn rhoi manylion y costau posibl o’u cymharu â’r buddion. Ni fydd unrhyw ymrwymiad i fynd ddim pellach.

Cam Tri

Os byddwch yn penderfynu bwrw ymlaen, byddwch yn elwa ar y gostyngiad o 12.5%  ar ein ffioedd a byddwn yn cyflwyno cais ar eich rhan i Gynllun Cymorth Cyfreithiol yr NFU am gyfraniad pellach.

Rydym yn ymfalchïo mewn bod wedi ein penodi yn gyfreithwyr Panel yr NFU ar gyfer Canolbarth a De Cymru. Rydym wedi bod ar y Panel er 2008 ac yn mwynhau’r berthynas waith glos sydd gennym â’r NFU. Rydym yn cynrychioli Aelodau’r NFU sy’n cael eu cyfeirio atom drwy ganolfan CallFirst yr NFU gan ymdrin ag unrhyw ymholiadau cyfreithiol sydd gan aelodau’r NFU ynglŷn â’u busnesau ffermio.

I drefnu eich archwiliad iechyd cyfreithiol di-dâl cysylltwch â:- law@jcpsolicitors.co.uk.