Prisiau ac Amserlenni Profiant

Credwn ei bod hi’n ddefnyddiol i ni roi syniad i chi o’r weithdrefn a’r amserlen i’w dilyn. Gall profiant fod yn broses hir a cheir llawer o rwystrau a allai achosi oedi. Wrth ddefnyddio ein Cyfreithwyr Profiant ni, bydd gennych bob amser enw cyswllt, rhif ffôn uniongyrchol a chyfeiriad e-bost a byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi drwy’r amser.

Mae ein prisiau yn seiliedig ar gyfradd yn ôl yr awr yn unig yn hytrach na chanran o werth yr asedau yn yr ystâd. Mae hyn yn golygu y byddwn yn rhoi amcangyfrif o’n costau i chi ar gyfer gweinyddu’r ystâd yn seiliedig ar nifer yr oriau o waith fydd eu hangen.  

Bydd amcangyfrif o’r costau yn cael ei ddarparu ar ôl i ni asesu cymhlethdod yr ystâd.

Gall cymhlethdodau ddod i’r amlwg ar unrhyw adeg a byddwn bob amser yn rhoi gwybodaeth eglur i chi a hynny cyn gynted â phosibl os bydd unrhyw newid i’n hamcangyfrif er mwyn gallu cynnwys unrhyw waith ychwanegol nas rhagwelwyd.

Gwasanaeth Profiant Llawn

Gan ddibynnu ar gymhlethdod a gwerth cyffredinol yr ystâd, ar gyfer profiant safonol, gall y pris amrywio rhwng £2,000 a £10,000 + TAW ar gyfer ystadau di-ddadl ac sydd ag asedau yn y DU yn unig.

Nid yw hyn yn cynnwys yr alldaliadau a amlinellir isod.

Mae ein gwasanaethau profiant llawn yn cynnwys:

  • Cyfarfod cychwynnol a chanfod y ffeithiau
  • Casglu gwybodaeth
  • Gwneud cais am Grant Cynrychiolaeth
  • Gosod hysbysiadau cyhoeddus ac ymgymryd â’r chwiliadau perthnasol o ran olrhain asedau, rhwymedigaeth ac Ewyllysion (pan fo angen)
  • Trefnu prisiadau
  • Ymdrin â Threth Etifeddiant
  • Casglu asedau
  • Talu unrhyw rwymedigaethau
  • Dosbarthu’r ystâd

I gael mwy o wybodaeth ynghylch unrhyw un o'r camau hyn, darllenwch ein tudalen Proses Profiant yma.

Nid yw'n cynnwys:

  • Ymdrin â gwerthiant neu drosglwyddiad unrhyw dir yn yr ystâd; bydd ein Tîm Eiddo yn rhoi pris ar wahân ar gyfer hyn, a gellir gofyn am ddyfynbris yma
  • Ymdrin â Gweithred Ymwrthod pan fo un neu fwy o'r ysgutorion yn dymuno ymddiswyddo. Ein pris ar gyfer hyn, gan gynnwys cofrestru yw £200 + TAW
  • Ymdrin ag asedau sydd y tu allan i'r DU
  • Anghydfodau sy'n codi gydag ystâd
  • Alldaliadau megis:-
  1. Ffi Cofrestru Profiant - £155 a 50c am bob copi ychwanegol o'r Grant sydd ei angen
  2. Ffioedd cofrestru a chwiliadau y Gofrestrfa Tir
  3. Ffioedd gosod hysbysiadau cyhoeddus, ymgymryd â chwiliadau ar gyfer olrhain asedau, rhwymedigaeth ac Ewyllysion
  4. Ffioedd Achyddion ac Asiantau olrhain
  5. Treuliau amrywiol megis treuliau teithio
  6. Ffioedd proffesiynol eraill, megis cyfrifwyr a phriswyr
  • Ceisiadau am wybodaeth o ffeiliau sydd wedi eu cwblhau. Pan fydd eich ffeil wedi ei chwblhau a’i chadw rydym yn codi £50 + TAW am bob cais am ddogfennau

Gall ystadau fod yn safonol ac yn syml, ond gall llawer ohonynt fod yn gymhleth a chydag amgylchiadau annisgwyl yn ogystal â bod wedi eu heffeithio gan emosiynau teuluol. Mae gennym ni dîm o weithwyr proffesiynol gofalgar ac arbenigol sydd â phrofiad eang mewn amrywiaeth o ystadau. Byddwn yn egluro'r broses o'r dechrau i’r diwedd i chi, a byddwn ar gael i ymdrin ag unrhyw sefyllfa yn ystod yr hyn a all fod yn amser emosiynol ac anodd yn eich bywyd.

Rydym yn cynghori pob Cynrychiolwr Personol i egluro i fuddiolwyr yr angen i fod yn hyblyg ac yn oddefgar. Gallai'r broses gymryd rhwng 9 a 12 mis ar gyfartaledd, ac weithiau mwy na hynny cyn y gellir cwblhau ystâd.  

I gael mwy o wybodaeth am y broses a’r amserlenni, cliciwch yma.

Mae’r holl gostau, gan gynnwys alldaliadau, yn daladwy o ystâd yr ymadawedig.

Grant Cynrychiolaeth yn unig

Os nad yw’r Cynrychiolwyr Personol yn dymuno ein cyfarwyddo ni i ymdrin â gweinyddiaeth lawn yr ystâd, rydym yn cynnig pris sefydlog amgen i ymdrin â'r cais am Grant Cynrychiolaeth a chwblhau’r ffurflen(ni) treth etifeddiant priodol yn unig.

Mae'r gwasanaeth hwn yn ddibynnol ar allu’r Cynrychiolwyr Personol i gael prisiadau o holl asedau a rhwymedigaethau y sawl a fu farw er mwyn ein galluogi i baratoi’r gwaith papur perthnasol y byddem wedyn yn ei gyflwyno i'r Gofrestrfa Brofiant a Chyllid a Thollau EM. Pan fydd y Grant Cynrychiolaeth wedi ei gyhoeddi, byddwn wedyn yn darparu hwnnw i’r Cynrychiolwyr Personol i'w galluogi nhw i gymryd y camau angenrheidiol i ymdrin â’r asedau a chwblhau gweinyddiaeth yr ystâd. Fodd bynnag, os oes angen unrhyw gymorth pellach ar y Cynrychiolwyr Personol gyda gweinyddiaeth yr ystâd, gallwn ddarparu amcangyfrif o’r costau ar gyfer y gwaith ychwanegol hwn.      

Mae ein costau ar gyfer Grant Cynrychiolaeth yn unig yn amrywio rhwng £795 + TAW a £1250 + TAW gan ddibynnu ar y cymhlethdod a'r ffurflen(ni) treth etifeddiant perthnasol sydd eu hangen.

Yn ychwanegol at ein costau, ceir ffi’r Gofrestrfa Brofiant o £155 sy’n daladwy hefyd a 50c ar gyfer pob copi ychwanegol o'r Grant sydd ei angen (nid yw TAW yn berthnasol). Disgwylir i ffioedd y Gofrestrfa Brofiant newid ym mis Ebrill 2019. Darllenwch fwy yn ein blog yma.

Cyfrifir unrhyw gyfeiriad at TAW isod yn ôl y gyfradd safonol ar gyfer nwyddau a gwasanaethau, sef 20% ar hyn o bryd.