Cyfreithwyr Hawliadau Damweiniau Angheuol

Mae colli un o’ch anwyliaid yn brofiad erchyll a thrawmatig, ond beth sy’n digwydd pe byddai’r golled drasig honno wedi’i hachosi gan ddamwain y gellid bod wedi ei hosgoi? Mewn llawer o achosion, mae’n bosibl y bydd gennych hawl i iawndal, yn enwedig os oeddech chi’n dibynnu’n ariannol ar y sawl a fu farw.

Er na all arian byth wneud iawn am farwolaeth un o’ch anwyliaid mewn gwirionedd, gall weithiau eich helpu â’r pwysau ariannol a’r caledi a achosir yn aml ar ôl colli aelod o’r teulu. Yn ogystal â hawlio am unrhyw anawsterau ariannol yr ydych chi’n eu profi, mae’n bosibl y gallech chi hefyd hawlio ar gyfer dioddefaint emosiynol a cholledion eraill nad ydynt yn rhai ariannol.

Rydym ni’n deall pa mor bryderus y gall y cyfnod hwn fod a sut y gall y syniad o geisio hawlio iawndal am ddamwain angheuol ymddangos yn ddryslyd ac yn frawychus, ar ben popeth arall yr ydych chi eisoes yn ymdrin â hwy. Ein nod, felly, yw gwneud y broses mor syml, cyflym a didrafferth â phosibl er mwyn i chi cael setliad teg.

Mae ein cyfreithwyr wedi bod yn helpu pobl ledled de Cymru i hawlio iawndal yn dilyn damweiniau angheuol ers 1990. Rydym yn brofiadol mewn ymdrin hyd yn oed â’r achosion mwyaf cymhleth a dadleugar, ac fel arfer gallwn sicrhau setliad heb orfod mynd i’r llys, gan arbed amser a straen i chi, yn ogystal â chadw eich ffioedd cyfreithiol cyn lleied â phosibl.

Rydym yn cyfuno dull sensitif a thosturiol gyda chyngor cyfreithiol clir ac ymarferol, gan eich helpu chi i gael y setliad gorau posibl sydd ar gael a gwneud y broses hawlio mor ddidrafferth â phosibl i chi.

I gael ymgynghoriad rhad ac am ddim heb unrhyw ymrwymiad ynglŷn â gwneud hawliad yn dilyn damwain angheuol yn ne Cymru, cysylltwch â ni drwy gysylltu â’ch swyddfa JCP leol neu drwy ddefnyddio’r ffurflen gyswllt ar y dde i gael ymateb cyflym.