Gofal Profedigaeth

Mae perthnasau agos a ffrindiau rhywun sydd wedi marw angen galaru am yr unigolyn hwnnw; mae profedigaeth fel arfer yn cynnwys nifer o wahanol brosesau, o anghrediniaeth o’r hyn sydd wedi digwydd hyd at ei dderbyn, ac yn aml, mae hyn yn cymryd tua dwy flynedd, ac weithiau llawer iawn hwy na hynny.

Yn ystod y cyfnod hwn, efallai y byddwch chi’n ei chael hi’n anodd ymdopi ar adegau. Os felly, mae'n ddoeth gofyn am gymorth yn hytrach na dweud wrthych eich hun y dylech chi fod yn gallu ymdopi. Os oes un o’r prosesau angenrheidiol sy’n rhan o’r brofedigaeth heb gael sylw dyledus, mae'n debygol y bydd diwedd y broses brofedigaeth yn cael ei oedi.

Efallai eich bod wedi clywed am elusen o’r enw CRUSE, sy’n ymwneud â chwnsela pobl mewn profedigaeth, ac sy’n cyhoeddi taflenni a allai fod o gymorth i chi. I gael copi o restr o’u cyhoeddiadau, dylech gysylltu â nhw drwy ysgrifennu at:

Cruse Bereavement Care
Blwch Post 800
Richmond
Surrey TW9 1VR

Rhif ffôn: 020 8876 0417

E-bost: helpline@cruse.org.uk

Gwefan: www.crusebereavementcare.org.uk

Cymerwyd oddi ar wefan Cruse (yn Saesneg):

Caiff Llinell Gymorth Genedlaethol Rhadffôn Gofal Profedigaeth Cruse ei staffio gan wirfoddolwyr sydd wedi eu hyfforddi mewn profedigaeth ac sy'n cynnig cymorth emosiynol i unrhyw un a effeithiwyd gan brofedigaeth.

Mae eu gwirfoddolwyr yma i'ch helpu chi i drafod pethau. Gallant hefyd eich helpu i ddod o hyd i’ch gwasanaeth Cruse lleol, neu eich cyfeirio at wasanaethau a ffynonellau gwybodaeth defnyddiol eraill. Mae’r llinell gymorth yn agored o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.30am-5pm (ac eithrio gwyliau banc), gydag oriau estynedig ar nos Fawrth, nos Fercher a nos Iau, pryd yr ydym yn agored tan 8pm. Y rhif ffôn yw 0808 808 1677.