Ein Proses Profiant

Pan gawn ein cyfarwyddo i helpu i ymdrin ag ystâd unigolyn sydd wedi marw, ein dyletswydd ni yw darparu canllawiau a chymorth i Gynrychiolwyr Personol yr Ymadawedig. Mae'n bwysig iawn bod y Cynrychiolwyr Personol yn gwbl ymwybodol o’u dyletswyddau ac yn eu deall fel y gallant sicrhau bod y gweithdrefnau cywir yn cael eu dilyn gan osgoi unrhyw anghydfodau neu broblemau yn yr ystâd, sy’n gallu bod yn gostus iawn yn aml.

Gweler isod yr hyn yr ydym yn ei ystyried fel y cerrig milltir allweddol yn y broses Profiant:-

Y Cyfarfod Cychwynnol

Byddwn yn cael cyfarfod cychwynnol gyda'r Cynrychiolwyr Personol i drafod cynnwys unrhyw Ewyllys a sicrhau bod ei thelerau’n eglur ac yn ddealladwy. Er bod gan y buddiolwyr hawl i gysylltu â ni i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y cynnydd wrth weinyddu’r ystâd, dylen nhw fod yn ymwybodol bod hyn yn golygu treulio amser ar y ffeil ac felly rydym yn argymell bod y buddiolwyr yn cysylltu â’r Cynrychiolwyr Personol gydag unrhyw ymholiadau yn gyntaf.

Byddwn hefyd yn trafod y diogelwch sydd ar gael i Gynrychiolwyr Personol i’w diogelu rhag unrhyw ddyledion anhysbys sydd gan y sawl a fu farw drwy drefnu hysbysiadau cyhoeddus a chwiliadau rhwymedigaeth pan fo hynny'n briodol. Gallwn hefyd helpu i sicrhau nad oes asedau ychwanegol yn yr ystâd drwy gynnal chwiliadau olrhain asedau a hefyd drwy helpu i olrhain Ewyllysion sydd ar goll a’u buddiolwyr. Gallwch ddarllen ein canllawiau ystyriaethau ychwanegol i gael mwy o wybodaeth am hyn.

Byddwn fel arfer yn gallu cwrdd â chi o fewn 10 niwrnod gwaith ar ôl i chi gysylltu â ni.

Casglu Gwybodaeth

Y cam cyntaf i ni yw casglu'r holl wybodaeth sy'n ymwneud â’r ystâd, a threfnu prisiadau eiddo ac unrhyw asedau eraill ar ddyddiad y farwolaeth. Bydd angen manylion llawn o gostau’r angladd arnom ni ynghyd â gwybodaeth ynglŷn ag unrhyw gardiau credyd, benthyciadau, cytundebau hurbryniant, a dyledion i aelodau o'r teulu a ffrindiau. Rhagwelir y bydd casglu'r holl wybodaeth hon yn cymryd o leiaf un i ddau fis ar gyfer ystâd safonol.

Pan fyddwn wedi cael prisiadau ar gyfer holl asedau a rhwymedigaethau’r ymadawedig ar ddyddiad ei farwolaeth, yna byddwn mewn sefyllfa i baratoi’r ffurflenni etifeddiant perthnasol a’r cais am Grant Cynrychiolaeth. Ar yr adeg hon, byddwn yn anfon ffurflen dreth etifeddiant a chais am Grant Cynrychiolaeth ymlaen at y Cynrychiolwyr Personol ar gyfer eu cymeradwyaeth. Mae'n hanfodol bod y Cynrychiolwyr Personol yn ystyried y gwaith papur hwn yn ofalus ac yn sicrhau bod yr wybodaeth sydd ynddo yn gywir hyd eithaf eu gwybodaeth. Yn arbennig, mae’n rhaid i'r Cynrychiolwyr Personol sicrhau nad oes unrhyw asedau na rhwymedigaethau sydd wedi eu hepgor o'r cyfrif treth etifeddiant, a'n bod ni wedi cael gwybod am unrhyw roddion a wnaed yn ystod oes yr ymadawedig.  

Byddwn yn gallu cyfrifo maint y Dreth Etifeddiant (os o gwbl) sy'n daladwy ar yr adeg hon a thrafod y dulliau sydd ar gael i dalu treth o'r fath.  

Casglu Asedau/Talu Rhwymedigaethau

Ar ôl i'r Cynrychiolwyr Personol gymeradwyo cyfrif y dreth etifeddiant a’r cais profiant, efallai y bydd angen cyflwyno’r cyfrif treth etifeddiant yn gyntaf i Gyllid a Thollau ei Mawrhydi a thalu unrhyw etifeddiant sy’n ddyledus ar yr ystâd. Wedyn, gellir cyflwyno cais am Grant Cynrychiolaeth i'r Gofrestrfa Brofiant. Fel arfer, bydd y Gofrestrfa Brofiant wedyn yn dosbarthu’r Grant Cynrychiolaeth o fewn oddeutu 3 wythnos ar ôl derbyn y cais. Ar ôl derbyn y Grant Cynrychiolaeth, bydd gan y Cynrychiolwyr Personol yr awdurdod i gasglu’r asedau; gallai hyn gynnwys balansau cyfrifon banc, buddsoddiadau, polisïau bywyd a gwerthiant neu drosglwyddiad unrhyw eiddo.  

Yn ogystal ag eiddo a meddiannau gwerthfawr eraill, gallai pethau eraill y dylid eu hystyried gynnwys:-

  • Budd-daliadau marw mewn swydd
  • Pensiynau/budd-daliadau ac unrhyw ordaliad neu dandaliad
  • Gordaliad neu dandaliad treth neu fudd-daliadau lles
  • Ffurflen hunanasesu treth derfynol i gwblhau sefyllfa incwm yr ymadawedig

Yn dilyn newid yr asedau i arian neu eu trosglwyddo a thalu unrhyw ddyledion yr ystâd nad ydynt wedi eu talu, byddwn wedyn yn paratoi cyfrifon yr ystâd i'w cymeradwyo gan y Cynrychiolwyr Personol a’r buddiolwyr. Bydd y cyfrifon hyn yn nodi manylion yr asedau ac unrhyw rwymedigaethau, gan gynnwys unrhyw dreuliau (megis costau cyfreithiol a chostau proffesiynol eraill) sydd gan yr ystâd.

Dosbarthu’r ystâd

Pan fydd cyfrifon yr ystâd wedi eu cymeradwyo, byddwn yn trefnu dosbarthiad yr ystâd i'r buddiolwyr.

Mae posibilrwydd y bydd asedau yn yr ystâd yn cael eu trosglwyddo i fuddiolwyr yn hytrach na chael eu troi yn arian parod. Mewn rhai amgylchiadau lle ceir nifer fawr o fuddiolwyr, yna mae hi'n ddoeth fel arfer i droi’r asedau yn arian parod er hwylustod gweinyddol. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd asedau y byddai’n ddoethach eu trosglwyddo i'r buddiolwyr. 

Gall y weithdrefn o weinyddu ystâd yn gywir gymryd cyfanswm o oddeutu 9 i 12 mis i’w chwblhau yn llawn yn y rhan fwyaf o achosion. Dylai’r Cynrychiolwyr Personol sicrhau bod y buddiolwyr yn ymwybodol na fyddant yn derbyn eu hetifeddiaeth yn syth, a’u bod nhw’n hyblyg o ran eu disgwyliadau. 

I gloi

Gall ystadau fod yn safonol ac yn syml, ond gall llawer ohonynt fod yn gymhleth a chydag amgylchiadau annisgwyl yn ogystal â bod wedi eu heffeithio gan emosiynau teuluol.

Mae'n bosibl ymgymryd â’r broses eich hunan a gall yr wefan .Gov roi canllawiau addas i chi. Fodd bynnag, os byddwch chi’n teimlo ar unrhyw adeg bod y sefyllfa yn eich llethu neu os byddwch yn cael unrhyw drafferthion, cysylltwch â ni.

Mae gennym ni dîm o weithwyr proffesiynol gofalgar ac arbenigol sydd â phrofiad sylweddol o ymdrin ag amrywiaeth eang o ystadau. Byddwn yn eich arwain drwy'r broses o'r dechrau i’r diwedd, a byddwn ar gael i ymdrin ag unrhyw gymhlethdodau yn ystod yr hyn sy’n gallu bod yn gyfnod anodd ac emosiynol o’ch bywyd.

I gael mwy o wybodaeth am ein prisiau cliciwch yma.