Profiant - Canllaw Ystyriaethau Pellach

Ar yr adeg anodd hon mae ystyriaethau ymarferol i'w hystyried. Mae gan Gynrychiolwyr Personol ddyletswydd i ddiogelu eiddo yr ymadawedig tan fod yr eiddo wedi ei werthu neu ei drosglwyddo i fuddiolwr. Os ydych chi'n teimlo bod y sefyllfa yn eich gorlethu, ac nid yw hynny’n anghyffredin, gallwn ni ymdrin â’r materion hyn ar eich rhan.

Eiddo

Dyletswydd y Cynrychiolwyr Personol yw gwneud yn siŵr bod pob eiddo wedi ei yswirio a bod yr yswiriant yn parhau mewn grym hyd nes y caiff yr eiddo ei werthu neu ei drosglwyddo, pan fydd y perchennog/perchenogion newydd yn dod yn gyfrifol am yr yswiriant. Un o dasgau cyntaf y Cynrychiolwyr Personol yn syth ar ôl y farwolaeth fydd cysylltu â’r cwmni yswiriant. Os yw'r eiddo yn wag, mae'n debyg y bydd yr yswirwyr yn lleihau lefel y sicrwydd ac yn gosod amodau pellach ar y polisi yswiriant. Mae'n bwysig iawn bod y Cynrychiolwyr Personol yn sicrhau eu bod nhw’n cydymffurfio ag unrhyw amodau ychwanegol o'r fath, neu fel arall gallai’r yswiriant fod yn annilys. Mae'n bosibl na fydd yswiriwr presennol yr ymadawedig yn gallu darparu lefel boddhaol o sicrwydd yswiriant. Yn yr achos hwnnw, gallwn ni helpu i drefnu bod y Cynrychiolwyr Personol yn cael eu rhoi mewn cysylltiad â brocer yswiriant a fydd yn gallu trefnu i yswiriant arbenigol gael ei roi ar yr eiddo ar unwaith.

Yn ystod misoedd y gaeaf, byddai'n ddoeth gadael y system wresogi ymlaen yn isel neu ddraenio’r system gwres canolog er mwyn osgoi unrhyw broblemau yn ymwneud â phibellau wedi byrstio. 

Dylech sicrhau bod yr eiddo wedi ei gloi yn ddiogel bob amser, a bod y Cynrychiolwyr Personol neu aelod o deulu neu gymydog i’r ymadawedig yn mynd i'r eiddo yn rheolaidd i gasglu’r post a sicrhau bod popeth yn ddiogel. Mae'n debyg y byddai'n syniad da cael golau ar amserydd ac os oes larwm yn yr eiddo, dylid ei ddefnyddio. Mae'n debygol y bydd y rhain yn rhai o'r amodau a osodir gan y sicrwydd yswiriant beth bynnag, os yw'r eiddo yn wag.

Pan fydd yr eiddo’n cael ei werthu neu ei drosglwyddo i fuddiolwr, byddai’n rhaid i un o’r Cynrychiolwyr Personol fynd i’r eiddo yn union cyn i hyn ddigwydd i gael darlleniadau terfynol ar gyfer y mesuryddion nwy, trydan a dŵr. Gallwch hefyd ddatgysylltu’r llinell ffôn neu ofyn i ni wneud hynny ar eich rhan.

Eiddo gwerthfawr

Os oes eitemau gwerthfawr megis gemwaith neu hen bethau yn yr eiddo ac os yw’r eiddo yn wag, yna dylai’r Cynrychiolwyr Personol ystyried cadw’r eitemau hyn yn eu cartrefi eu hunain. Os nad yw hyn yn ymarferol, dylid cadw’r eitemau hyn yn ddiogel yn rhywle arall. Os yw’r eitemau’n cael eu cadw yng nghartref y Cynrychiolydd Personol er mwyn iddynt fod yn ddiogel, mae’n rhaid iddo sicrhau bod ei yswiriant yn ddigonol i gynnwys yr eitemau ychwanegol.

Eiddo personol amrywiol

Dylai’r Cynrychiolwyr Personol fod yn ofalus cyn dosbarthu unrhyw eitemau personol neu ymdrin â gwerthiant unrhyw gerbyd yn yr ystâd cyn y bydd y Grant Cynrychiolaeth wedi ei gyhoeddi. Dylid cael cyngor cyfreithiol cyn gwneud hynny. Rydym bob amser yn cynghori y dylid cael derbynneb gan y buddiolwr dan sylw.

Trwydded yrru a phasport

Dylai’r Cynrychiolwyr Personol ddileu trwydded yrru a phasport yr ymadawedig hefyd. Gall cofnodi hysbysiad ‘Dywedwch Wrthym Unwaith’ helpu i hysbysu llawer o asiantaethau llywodraeth leol a llywodraeth ganolog yn hyn o beth a chaiff manylion y cynllun hwn eu darparu, fel arfer, wrth gael y dystysgrif marwolaeth gan y Cofrestrydd Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau.

Hawliadau yn erbyn yr ystâd

Mae’n rhaid i’r Cynrychiolwyr Personol fod yn effro i'r posibilrwydd o hawliadau y gellid eu gwneud yn erbyn yr ystâd ac yn gyffredinol, ni ddylent gymryd unrhyw gamau i ddosbarthu ystâd o fewn cyfnod o 6 mis i ddyddiad cyhoeddi’r Grant Profiant.  

Gwneir hawliadau o'r fath fel arfer gan aelodau agos o'r teulu neu bobl a oedd yn ddibynnol yn ariannol mewn rhyw ffordd ar yr ymadawedig yn ystod ei oes. Os yw’r Cynrychiolwyr Personol yn rhagweld y bydd hawliad yn cael ei wneud yn erbyn yr ystâd gan unrhyw drydydd parti, dylent gael cyngor cyfreithiol ar unwaith gan gyfreithiwr profiant cynhennus arbenigol. Yng nghwmni cyfreithwyr JCP Solicitors, mae gennym ni dîm arbenigol sy’n ymdrin ag ystadau cynhennus, sy’n gallu bod o gymorth pe byddai anghydfod o'r fath yn codi mewn ystâd. Cliciwch yma i ddarllen mwy am y tîm hwn.

Darperir yr wybodaeth hon fel arweiniad cyffredinol yn unig a gall ein cyngor amrywio yn dibynnu ar yr amgylchiadau sy'n ymwneud ag ystâd unigol. Rydym yn awgrymu'n gryf bod Cynrychiolwyr Personol yn cael cyngor cyfreithiol o'r cychwyn cyntaf er mwyn osgoi unrhyw broblemau neu anghydfodau sy'n codi yn yr ystâd a allai fod yn gostus i’w hunioni gan arwain at i’r Cynrychiolwyr Personol fod yn agored i atebolrwydd personol.

I gael mwy o wybodaeth cliciwch yma.

I gael mwy o wybodaeth am y broses a’r amserlenni, cliciwch yma.