Herio Ewyllys neu Ymddiriedolaeth

Mae anghydfodau sy’n codi yn dilyn marwolaeth perthynas yn aml yn boenus a chymhleth, ac yn codi ar adeg pan fo pawb o dan deimlad. Ni yw un o’r ychydig gwmnïau cyfreithiol yng Nghymru sydd â’r arbenigedd angenrheidiol i ymdrin ag anghydfodau o’r fath, ac rydym wedi sefydlu enw da yn y maes anodd hwn.

Pan fo person yn marw gan adael asedau ar ei ôl, mae potensial bob amser i anghydfod godi hyd yn oed os yw’r sawl sydd wedi marw wedi gadael Ewyllys. Gelwir hyn yn brofiant cynhennus.
 
Mae Richard Howells yn aelod o’r corff proffesiynol ACTAPS – y Gymdeithas Arbenigwyr mewn Ymddiriedolaethau a Phrofiant Cynhennus. Pa un a ydych yn hawlydd, yn ymddiriedolwr, yn fuddiolwr neu’n gynrychiolydd personol a beth bynnag fo’r amgylchiadau, mae’r arbenigedd proffesiynol a’r profiad gan ein Tîm Profiant Cynhennus i’ch tywys drwy’r broses hon.
 
Gallwch fod yn dawel eich meddwl bod gan y tîm sy’n ymdrin â’ch achos flynyddoedd lawer o brofiad arbenigol mewn ymgyfreitha, a hynny mewn amrywiaeth o achosion gan gynnwys ymdrin â gwir berchnogaeth eiddo, esgeulustra wrth ddrafftio ewyllysiau, anghydfodau rhwng cynrychiolwyr personol a hawliadau sy’n herio dilysrwydd ewyllysiau, a cheisiadau i’r Llys Gwarchod,.
 
Mae ein harbenigedd yn cynnwys:
  • Hawliadau estopel perchnogaeth, gan gynnwys rhai yn ymdrin ag ystadau amaethyddol gwerth uchel
  • Anghydfodau rhwng cynrychiolwyr personol
  • Hawliadau yn herio dilysrwydd Ewyllysiau ar sail:
    • Methiant i weithredu Ewyllys yn gywir
    • Dylanwad gormodol
    • Diffyg gwybodaeth a chymeradwyaeth
    • Diffyg cymhwyster ewyllysiol
    • Twyll a ffugiadau
  • Hawliadau am fudd ariannol mewn eiddo ystâd
  • Ceisiadau i’r Llys am arweiniad ar ddehongliad cymalau penodol o fewn Ewyllysiau lle mae’r termau yn aneglur
  • Hawliadau o dan Ddeddf Etifeddiaeth (Darpariaeth ar gyfer Teulu a Dibynyddion) 1975 ble mae darpariaeth annigonol ar gyfer dibynnydd mewn Ewyllys neu pan nad oes ewyllys
  • Hawliadau ynglŷn â drafftio esgeulus neu weinyddu ystadau mewn modd esgeulus
  • Ceisiadau i apwyntio Dirprwyon, cadarnhau gallu meddyliol neu baratoi Ewyllys Statudol gan gynnwys gwasanaeth y Llys Gwarchod
  • Anghydfodau cymhleth ynglŷn ag Ymddiriedolaethau
  • Hawliadau Strong v Bird

Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gyflawni’r canlyniad iawn i chi. Er nad yw’n bosibl bob amser, byddwn yn ceisio dod i gytundeb heb fynd i achos llys, gan geisio diogelu’r berthynas deuluol. Er hynny, os na ellir cyflawni datrysiad heb achos llys, gallwch fod yn dawel eich meddwl bod eich tîm yn cynnwys arbenigwyr y gallwch ddibynnu arnynt.

  • Matthew Owen
      • 01792 529 683
      • View profile
  • Arwel Davies
      • 01348 871 013
      • View profile
  • Meinir Davies
      • 01792 529 666
      • View profile
  • Betsan Powell
      • 01792 529 644
      • View profile
  • Elinor Laidlaw
      • 01792 529 698
      • View profile
  • Ian Rees
      • Ian Rees
      • Cyfarwyddwr a Phennaeth Anaf Personol
      • 01792 529 641
      • View profile
  • Georgia Davies
      • 01792 773 773
      • View profile
  • Naomi Headley
      • 01792 5529 667
      • View profile
  • Rhian Jervis
      • 01792 525 422
      • View profile
  • Rhian Jones
      • 01437 771 160
      • View profile
  • Sharon Jones
      • 01267 248 890
      • View profile
  • Angela Killa
      • 01267 248893
      • View profile
  • Delyth Morris
      • 01267 266 941
      • View profile
  • Rachel Morris
      • 01267 248886
      • View profile
  • Eleri Roebuck
      • 01267 248 984
      • View profile
  • Malcolm Thomas MBE
      • 07837 109 599
      • View profile