Cyfreithwyr Ewyllysiau

Yn aml mae gwneud Ewyllys yn cael ei ystyried fel rhywbeth y dylid ei wneud yn ddiweddarach mewn bywyd. Mewn gwirionedd, mae’n rhan bwysig iawn o Gynllunio Gydol Oes i bob un ohonom ni.

Mae ein cleientiaid yn amrywiol iawn, gan gynnwys pobl ifanc proffesiynol, perchnogion busnesau gan gynnwys y rhai â buddiant amaethyddol, pobl broffesiynol sydd wedi ymddeol yn ddiweddar, yn ogystal â phobl hŷn.

Pam y dylwn i wneud Ewyllys?

  • Mae Ewyllys yn rhoi tawelwch meddwl i chi gan sicrhau bod eich dymuniadau yn cael eu gwireddu
  • Heb Ewyllys caiff eich asedau eu dosbarthu yn ôl y gyfraith ac efallai na fyddant yn mynd yn syth i’ch priod, plant neu aelodau eraill o’ch teulu fel y byddech chi’n dymuno
  • Gall Ewyllys ddarparu ar gyfer deinameg teuluoedd modern, megis parau dibriod, ail briodasau, llysblant a llys wyrion – rhai na chânt eu cynnwys yn awtomatig gan y gyfraith
  • Os bu newid yn eich sefyllfa bersonol e.e. priodas, ysgariad, genedigaeth plant neu wyrion - os gwnaethoch chi Ewyllys cyn i chi briodi efallai nad yw’n ddilys mwyach
  • Gall eich Ewyllys benodi gwarcheidwaid i edrych ar ôl unrhyw blant o dan 18 oed
  • Gallwch ddefnyddio eich Ewyllys i gofnodi unrhyw ddymuniadau sydd gennych ar gyfer eitemau o werth sentimental, anifeiliaid anwes y teulu ac eiddo arall sy’n agos at eich calon
  • Gall Ewyllys eich galluogi i roi arian i unrhyw elusennau neu sefydliadau eraill y gallech chi fod yn eu cefnogi
  • Er mwyn osgoi anghydfodau drud i’ch anwyliaid
  •  

Beth arall y dylwn i ei ystyried?

  • Gwnewch Ewyllys yn gynnar yn eich bywyd a’i hadolygu’n aml. Fe wnaiff JCP adolygu eich Ewyllys yn rhad ac am ddim bob 3 blynedd
  • Pwy fydd eich ysgutorion? Mae JCP yn fodlon iawn i gynnig y gwasanaeth hwn
  • Ble fydd eich Ewyllys yn cael ei chadw? Mae JCP yn cynnig cadw Ewyllysiau yn ddiogel a hynny’n rhad ac am ddim ar ran ein holl gleientiaid

Ewyllysiau yn sgil ail briodas 

Er bod llawer o bethau i’w hystyried wrth wneud Ewyllys yn sgil ail briodas yn enwedig pan fo plant ar un neu ar y ddwy ochr, mae un agwedd y dylid ei hamlygu yn dilyn cyflwyniad Band Preswylio Dim Cyfradd (RNRB) ym mis Ebrill 2017. 

Mae’r RNRB yn rhyddhad ychwanegol (£100,000 ym mis Ebrill 2017 ac yn codi i £175,000 erbyn 2020). Gellir ychwanegu hynny at y Band Dim Cyfradd ar gyfer Treth Etifeddiant pan adewir cartref annedd neu gyfran ohono neu gyfran o’r eiddo hwnnw i ddisgynnydd uniongyrchol (plentyn, llysblentyn, ŵyr neu wyres ac ati).

Dylid cymryd gofal mawr wrth ddrafftio Ewyllysiau er mwyn sicrhau na chollir yr RNRB wrth gynnwys hawliau yn yr eiddo o blaid trydydd partïon nad ydynt yn ddisgynyddion uniongyrchol.

Dylid cael cyngor priodol bob amser i sicrhau na pheryglir y rhyddhad hwn gan delerau Ewyllys, a dylid adolygu unrhyw Ewyllysiau presennol yn sgil y rhyddhad Treth Etifeddiant newydd hwn.