Y Cynllun Taliad Sylfaenol

Yn ogystal â chynghori ar y Cynllun Taliad Sylfaenol a chynlluniau eraill sydd ar gael i ffermwyr, rydym hefyd yn cynorthwyo mewn unrhyw drosglwyddiad sy’n ofynnol gan y cytundebau hynny.

Rydym wedi ymdrin yn rheolaidd â throsglwyddo hawliadau Cynllun Taliad Sylfaenol sy’n gallu digwydd ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, ond mae’n rhaid eu cwblhau cyn dechrau mis Ebrill yn ystod unrhyw flwyddyn o’r cynllun os ydynt am ddod i rym yn y flwyddyn honno oherwydd y rhybudd o 6 wythnos sy’n ofynnol gan yr Asiantaeth Taliadau Gwledig. 
 
Mae trosglwyddo cytundebau cynlluniau eraill yn gallu bod yn fwy cymhleth, a dylid cael cyngor penodol ym mhob amgylchiad unigol.

 

  • Delyth Morris
      • 01267 266 941
      • View profile
  • Eleri Roebuck
      • 01267 248 984
      • View profile
  • Malcolm Thomas MBE
      • 07837 109 599
      • View profile