Cyfreithwyr Parlys yr Ymennydd

Gall parlys yr ymennydd gael effaith ddifrifol ar iechyd eich plentyn a’i gyfleoedd mewn bywyd; ac os cafodd y cyflwr ei achosi drwy esgeuluster meddygol yn ystod genedigaeth eich plentyn mae’n ddealladwy eich bod yn dymuno hawlio iawndal i alluogi eich plentyn i gael yr ansawdd bywyd gorau posibl, er gwaethaf yr amgylchiadau.

Yng nghwmni cyfreithwyr JCP, rydym yn helpu teuluoedd yn rheolaidd i hawlio iawndal ar gyfer parlys yr ymennydd a achoswyd gan esgeuluster meddygol. Mae gennym ni hanes rhagorol o lwyddiant ac rydym wedi sicrhau miliynau o bunnoedd mewn iawndal ar ran ein cleientiaid dros y blynyddoedd.

Mae ein cyfreithwyr hawliadau parlys yr ymennydd yn gwybod pa mor ddryslyd a brawychus y gall y syniad o hawlio fod, ac maen nhw’n cynnig gwasanaeth cyfeillgar, tosturiol ac ymarferol, gan helpu i wneud y broses o hawlio iawndal oherwydd anaf ar enedigaeth mor rhwydd a dealladwy â phosibl.

Rydym ni’n deall y gall sicrhau iawndal fod yn gwbl hanfodol i’ch galluogi i fforddio’r driniaeth, y gofal a’r cymorth sydd eu hangen ar eich plentyn i fyw bywyd llawn a hapus. Pa un a ydych chi’n ystyried hawliad neu os ydych chi eisoes wedi ceisio hawlio iawndal ond nad ydych chi’n fodlon â’r canlyniad, bydd ein cyfreithwyr anaf ar enedigaeth arbenigol yn fwy na pharod i’ch cynghori chi ar y ffordd orau i symud ymlaen.

Mae’n bwysig eich bod yn teimlo’n gyfforddus ac yn ymddiried yn y Cyfreithiwr y byddwch yn ei gyfarwyddo, oherwydd gallem ni fod yn gweithio gyda chi am flynyddoedd lawer wrth i ni benderfynu ar y gofal, y cymorth a’r driniaeth debygol y gallai fod eu hangen ar eich plentyn yn y dyfodol. Er ei bod efallai’n ymddangos fel amserlen hir, mae’n bwysig ein bod ni’n cynnal ymchwiliadau llawn a manwl i sicrhau eich bod yn cael yr iawndal angenrheidiol er mwyn darparu’r gofal gorau posibl i’ch plentyn am weddill ei oes.

I gael ymgynghoriad rhad ac am ddim heb unrhyw ymrwymiad neu i gychwyn hawliad am iawndal oherwydd parlys yr ymennydd, cysylltwch drwy ffonio 033 3320 8440 neu defnyddiwch y ffurflen gyswllt ar y dde i gael ymateb cyflym.