Anafiadau i Asgwrn y Cefn - Esgeuluster Meddygol

Mae anafiadau i'r asgwrn cefn yn newid bywydau. Yn ogystal â'r boen, y straen a'r anabledd, gall y goblygiadau ariannol fod yn ddifrifol. Mae’n golygu bod cartref y teulu yn colli cyflog, ac mae cael gafael ar arian i addasu cerbydau a thai yn gallu bod bron yn amhosibl.

Er na allwn ddadwneud effeithiau anaf i'r asgwrn cefn, bydd ein cymorth a'n cefnogaeth yn eich helpu i wynebu'r heriau ariannol sydd o'ch blaen. Pan achoswyd eich anaf neu y gwnaed eich anaf yn waeth oherwydd esgeuluster rhywun arall, gall yr iawndal sydd ar gael fod yn sylweddol. Felly, mae hawlio iawndal yn aml yn hanfodol i'ch helpu i ailadeiladu eich bywyd a symud ymlaen.

Gall y materion sy'n ymwneud â hawlio iawndal oherwydd anaf i'r asgwrn cefn fod yn gymhleth iawn, felly mae'n bwysig cael y cyngor proffesiynol cywir gan gyfreithiwr sydd â phrofiad o ymdrin ag anafiadau i'r asgwrn cefn, ac sy’n gallu helpu i sicrhau taliadau dros dro a therapi addas i greu’r cyfleoedd gorau ar gyfer eich adferiad.

Mae ein tîm profiadol iawn wedi'i achredu gan Gymdeithas y Gyfraith ar gyfer Esgeuluster Clinigol ac mae wedi ei restru ar Gynllun Cyfreithwyr Cymeradwy Cymdeithas Anafiadau i'r Asgwrn Cefn (SIA), sy'n adlewyrchu ein harbenigedd arbenigol yn y maes hwn.

Ni yw'r unig aelodau o’r Gymdeithas Anafiadau i'r Asgwrn Cefn (SIA) sydd â swyddfeydd yng ngorllewin Cymru. Gall yr SIA ddarparu cymorth sy'n newid bywyd i bobl ag anafiadau i'r asgwrn cefn, i'w galluogi i fyw bywydau cyflawn.

Os byddwch yn ein cyfarwyddo ynghylch anaf i'r asgwrn cefn, mae'n debygol y byddwch yn gweithio gyda ni am sawl blwyddyn tra byddwn yn sicrhau'r canlyniad gorau posibl i chi. Rydym ni, fel yr ydych chithau, yn deall nad ffawdelw yw iawndal ond ffordd o alluogi ein cleientiaid i fyw bywyd mor llawn â phosibl ar ôl eu damwain.

Rydym yn cynnig cytundebau dim ennill, dim ffi (a elwir hefyd yn 'gytundebau ffioedd amodol') fel y gallwch gael ein cyngor a'n cymorth cyfreithiol arbenigol profiadol ni beth bynnag yw eich sefyllfa ariannol.

I drefnu ymgynghoriad cychwynnol am ddim heb rwymedigaeth gyda'n cyfreithwyr anafiadau i'r asgwrn cefn, cysylltwch â'ch swyddfa Cyfreithwyr JCP leol yng NghaerdyddAbertaweAbergwaunCaerffiliCaerfyrddinHwlfforddTyddewi neu’r  Bont-faen.

"Unwaith eto hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad o’ch cymorth. Tan i chi ymgymryd â’m hachos nid oedd unrhyw un yn fy nghymryd o ddifrif."

  • Matthew Owen
      • 01792 529 683
      • View profile
  • Arwel Davies
      • 01348 871 013
      • View profile
  • Meinir Davies
      • 01792 529 666
      • View profile
  • Betsan Powell
      • 01792 529 644
      • View profile
  • Elinor Laidlaw
      • 01792 529 698
      • View profile
  • Ian Rees
      • Ian Rees
      • Cyfarwyddwr a Phennaeth Anaf Personol
      • 01792 529 641
      • View profile
  • Georgia Davies
      • 01792 773 773
      • View profile
  • Naomi Headley
      • 01792 5529 667
      • View profile
  • Rhian Jervis
      • 01792 525 422
      • View profile
  • Rhian Jones
      • 01437 771 160
      • View profile
  • Sharon Jones
      • 01267 248 890
      • View profile
  • Angela Killa
      • 01267 248893
      • View profile
  • Delyth Morris
      • 01267 266 941
      • View profile
  • Rachel Morris
      • 01267 248886
      • View profile
  • Eleri Roebuck
      • 01267 248 984
      • View profile
  • Malcolm Thomas MBE
      • 07837 109 599
      • View profile