Anaf Geni

I’r rhan fwyaf o bobl, mae cael babi yn un o’r adegau mwyaf cyffrous yn eu bywydau. Ond gall y profiad droi’n chwerw a hyd yn oed yn drallodus pan fo pethau’n mynd o chwith, yn enwedig pe byddai wedi bod yn bosibl atal hynny. Gall natur weithiau fod yn greulon iawn tuag atom, ac yn anffodus, mae’r arbenigwyr meddygol yr ydym ni’n dibynnu arnynt yn ystod genedigaeth plentyn yn gallu ein siomi hefyd.

Mae gennym brofiad helaeth o ymdrin â hawliadau anaf geni megis Parlys yr Ymennydd, Parlys Erbs, ac anafiadau i’r fam ymhlith eraill, a bydd ein modd teimladwy o ymdrin â’ch hawliad yn helpu i ryw raddau i wneud y cyfnod anodd hwn ychydig yn haws. 
 
Rydym yn deall yr effeithiau enbyd y gall anaf geni ei achosi, i’r plentyn ac i’r teulu. Gwyddom fod angen therapi a gofal helaeth yn aml, ac mae gennym yr arbenigedd i ymdrin â’ch hawliad yn briodol.
 
Er bod terfyn amser o 3 blynedd o ben-blwydd eich plentyn yn 18 oed, mae’n hollbwysig eich bod yn cysylltu â ni cyn gynted â phosibl gan fod hawliadau anaf geni yn gallu bod yn gymhleth iawn a chymryd blynyddoedd lawer i’w datrys. Po gyntaf y gallwn ni ddechrau gweithredu, po gyntaf y gallwn helpu i leddfu rhywfaint ar y straen a chael iawndal a fydd o gymorth i ofalu amdanoch chi a’ch plentyn.
 
“Tîm hynod o effeithiol a gwybodus sy’n rhoi sylw i les y cleient yn ogystal â’r iawndal y gallai ei gael”
Chambers and Partners 2016 Edition

 

 

  • Matthew Owen
      • 01792 529 683
      • View profile
  • Arwel Davies
      • 01348 871 013
      • View profile
  • Meinir Davies
      • 01792 529 666
      • View profile
  • Betsan Powell
      • 01792 529 644
      • View profile
  • Elinor Laidlaw
      • 01792 529 698
      • View profile
  • Ian Rees
      • Ian Rees
      • Cyfarwyddwr a Phennaeth Anaf Personol
      • 01792 529 641
      • View profile
  • Georgia Davies
      • 01792 773 773
      • View profile
  • Naomi Headley
      • 01792 5529 667
      • View profile
  • Rhian Jervis
      • 01792 525 422
      • View profile
  • Rhian Jones
      • 01437 771 160
      • View profile
  • Sharon Jones
      • 01267 248 890
      • View profile
  • Angela Killa
      • 01267 248893
      • View profile
  • Delyth Morris
      • 01267 266 941
      • View profile
  • Rachel Morris
      • 01267 248886
      • View profile
  • Eleri Roebuck
      • 01267 248 984
      • View profile
  • Malcolm Thomas MBE
      • 07837 109 599
      • View profile