Cyfreithwyr Anghydfodau yn ymwneud â Ffiniau

Mae anghydfod yn ymwneud â ffiniau yn achos cyffredin o anghydfodau rhwng cymdogion. Mae'n hawdd gweld pam mae hynny’n wir; wedi'r cyfan, mae eiddo yn un o'r pethau drutaf a phwysicaf y gallwn ni eu prynu yn ystod ein bywydau, felly nid oes rhyfedd bod hynny’n gallu effeithio ar ein hemosiynau. Yn fwy na hynny, mae llawer ohonom ni nad ydym yn ymwybodol o ffiniau cyffredinol ein heiddo, sy’n ei gwneud yn hawdd i anghydfodau o'r math hwn ddigwydd.

Os ydych chi’n credu bod eich cymydog wedi mynd y tu draw i’w ffin neu wedi dechrau ymestyn i mewn i'ch tiriogaeth chi, eich cam cyntaf ddylai fod gofyn am gyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr sy’n arbenigo mewn anghydfodau yn ymwneud â ffiniau.

Ble mae fy llinell ffin?

Mae llinell ffin rhwng eich eiddo chi ac eiddo eich cymydog. Y llinell hon sy’n pennu ble mae eich tir chi yn gorffen a ble mae tir eich cymydog yn dechrau.

Pan gaiff eiddo preswyl ei gofrestru gyda'r Gofrestrfa Tir, caiff cynllun teitl ei greu. Llun yw’r cynllun teitl sy'n nodi ffiniau cyffredinol yr eiddo. Fodd bynnag, mae'n hollbwysig nodi mai dim ond y safle cyffredinol y mae cynllun teitl yn ei ddangos yn hytrach na'r union linell ffin. Er y gallai'r ddogfen hon fod o gymorth, gallai fod gwyrdroadau ac ni ddylid ei defnyddio'n benodol i bennu eich llinellau ffin. Er mwyn pennu lleoliad cywir y llinell derfyn, dylid cyfeirio at y gweithredoedd ar gyfer pob eiddo.

Os nad oes dogfennau i brofi hanes eich llinellau ffin, chi a'ch cymydog fydd yn penderfynu ar leoliad cywir y ffin. Yn y pen draw, gall y ddwy ochr ddod at ei gilydd i benderfynu ar yr union linell sy'n gwahanu eu heiddo, a chreu dogfen gyfreithiol i gofnodi hynny. Fodd bynnag, os na allwch chi ddod i gytundeb ynghylch ble y dylai'r llinell ffin fod, bydd ein cyfreithwyr anghydfodau yn ymwneud â ffiniau penodedig wrth law i'ch helpu i ddatrys y mater yn brydlon.